Cyfrifiadau yn Ffrainc

Cafodd cyfrifiadau yn Ffrainc eu cynnal ers 1772, ond dim ond cyfrif y nifer o pobl a oedd yn byw ym mhob aelwyd oeddent fel arfer, ond weithiau cynhwyswyd enw'r pen-teulu. Ers 1836, cymerwyd cyfrifiad yn Ffrainc pob pum mlynedd, sy'n cynnwys enw a chyfenw pob person sy'n byw yn yr aelwyd ynghyd â manylion eraill megis eu dyddiad a'u lleoliad geni (neu eu oedran), cenedligrwydd a'u galwedigaeth. Mae dau eithriad i'r rheol pum mlynedd, sef cyfrifiad 1871 a gymerwyd yn 1872, a chyfrifiad 1916 na gymerwyd oherwydd digwyddiad y Rhyfel Byd Cyntaf. Mae gan rhai cymunedau gyfrifiadau cynharach ar gyfer 1817.[1]

Nid yw cyfrifiadau Ffrainc mor ddefnyddiol ar gyfer hel achau a rhai Prydain er enghraifft, gan nad oes indecs ar gyfer yr unigolion. Mae'n rhaid gwybod union gyfeiriad yr unigolyn yr ydych yn chwilio amdanynt, neu edrych drwy filoedd o gofnodion er mwyn eu canfod ar hap.

Erbyn hyn, caiff y cyfrifiad yn Ffrainc ei drefnu gan yr Institut National de la Statistique et des Études Économiques.

  1.  Genealogy in France. About.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne